Datganiad hygyrchedd ar gyfer Diweddaru eich trwydded yrru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.gov.uk/adnewyddu-trwydded-yrru.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae'r wefan hefyd wedi'i dylunio i fod yn gydnaws â:
- chwyddwydrau sgrin system weithredu sylfaenol, megis ZoomText 11
- meddalwedd adnabod lleferydd, fel Dragon Naturally Speaking
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
E-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a chawn weld a allwn eich helpu, neu cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt drwy
- E-bost: contact@dvla.gov.uk
- Ffôn: 0300 300 2079
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu faterion wrth ddefnyddio ein gwefan neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at contact@dvla.gov.uk.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â fersiwn 2.2 A Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We a safonau AA.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Dolenni amwys (AAA)
Roedd dolenni ar rai tudalennau a all fod yn anodd eu deall i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn sy'n pori allan o gyd-destun.
Bydd rhai dolenni yn amwys i rai defnyddwyr darllenydd sgrîn sy'n pori allan o gyd-destun trwy ddefnyddio'r allwedd tab neu drwy ynysu rhestr o'r dolenni i un rhestr unigol.
Mae rhychwant cudd a gwybodaeth ychwanegol wedi cael ei weithredu, fodd bynnag, mae'r rhychwant yn eistedd y tu allan i'r ddolen mewn gwirionedd.
Mae'r broblem i fod i gael ei datrys o fewn y 6 mis nesaf.
Cynnwys anhygyrch
Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol: diffygion cydymffurfio - mae hyn yn golygu bod y cynnwys dan sylw yng nghwmpas y rheoliadau, ond mae problem hygyrchedd a all brofi'n heriol i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
- Trafod gwallau - Ni wnaeth rhywfaint o'r trafod gwallau ddilyn argymhellion System Ddylunio GOV.UK.
- Dilysu gwallau - Ni chafodd ffocws ei reoli cyn gynted â bod dilysu gwallau wedi cael ei ysgogi.
- Neidio dros ddolenni - Ni pherfformiodd y ddolen gwallau yn ôl y disgwyl.
- Teitl y dudalen - Cafodd rhan o deitl y dudalen ei dyblygu.
- Baner cwcis - Ni ddilynodd y faner cwcis argymhellion System Ddylunio GOV.UK.
- Botymau - Cafodd yr elfen botwm ei dynodi fel dolen.
- Bysellfwrdd rhifol - Gall y bysellfwrdd mewnbwn testun safonol fod yn cymryd amser i ddefnyddwyr symudol.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 18 Rhagfyr 2023. Rydym yn anelu at adolygu'r datganiad hwn yn y tri mis nesaf.
Cafodd y gwasanaeth hwn ei brofi ddiwethaf ar 14 Tachwedd 2023. Cafodd y prawf ei gyflawni gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad prawf hygyrchedd llawn ar gais.